“Yn awr, ystyriwch sut y bu hyd at y dydd hwn. Cyn rhoi carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD, sut y bu? Dôi un at bentwr ugain mesur, a chael deg; dôi at winwryf i dynnu hanner can mesur, a chael ugain. Trewais chwi, a holl lafur eich dwylo, â malltod, llwydni a chenllysg, ac eto ni throesoch ataf,” medd yr ARGLWYDD. “Yn awr ystyriwch sut y bydd o'r dydd hwn ymlaen, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, dydd gosod sylfaen teml yr ARGLWYDD; ystyriwch. A fydd had eto yn yr ysgubor? A fydd y winwydden, y ffigysbren, y pomgranadwydden a'r olewydden eto heb roi dim? O'r dydd hwn ymlaen fe'ch bendithiaf.”
Darllen Haggai 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Haggai 2:15-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos