Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gofynnwch fel hyn i'r offeiriaid am gyfarwyddyd: ‘Os dwg un ym mhlyg ei wisg gig wedi ei gysegru, a gadael i'r wisg gyffwrdd â bara, neu gawl, neu win, neu olew, neu unrhyw fwyd, a fyddant yn gysegredig?’ ” Atebodd yr offeiriaid, “Na fyddant.” Yna dywedodd Haggai, “Os bydd rhywun sy'n halogedig oherwydd cysylltiad â chorff marw yn cyffwrdd â'r rhain, a fyddant yn halogedig?” Atebodd yr offeiriaid, “Byddant.” Yna dywedodd Haggai, “ ‘Felly y mae'r bobl hyn, a'r genedl hon ger fy mron,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a hefyd holl waith eu dwylo; y mae pob offrwm a ddygant yma yn halogedig.’ ”
Darllen Haggai 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Haggai 2:11-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos