Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth. O ARGLWYDD, clywais y sôn amdanat, a gwelais dy waith, O ARGLWYDD. Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd, datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd, ac yn dy lid cofia drugaredd. Y mae Duw yn dyfod o Teman, a'r Sanctaidd o Fynydd Paran. Sela Y mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd, a'i fawl yn llenwi'r ddaear. Y mae ei lewyrch fel y wawr, a phelydrau'n fflachio o'i law; ac yno y mae cuddfan ei nerth. Â haint allan o'i flaen, a daw pla allan ar ei ôl. Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd; pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu; rhwygir y mynyddoedd hen a siglir y bryniau oesol; llwybrau oesol sydd ganddo. Gwelais bebyll Cusan mewn helbul a llenni tir Midian yn crynu. A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD? A yw dy lid yn erbyn yr afonydd, a'th ddicter at y môr? Pan wyt yn marchogaeth dy feirch a'th gerbydau i fuddugoliaeth, y mae dy fwa wedi ei ddarparu a'r saethau'n barod i'r llinyn. Sela Yr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd; pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir. Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen; tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel. Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle, rhag fflachiau dy saethau cyflym, rhag llewyrch dy waywffon ddisglair. Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear, ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd. Ei allan i waredu dy bobl, i waredu dy eneiniog; drylli dŷ'r drygionus i'r llawr, a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig. Sela Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyr a ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru, fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel. Pan sethri'r môr â'th feirch, y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.
Darllen Habacuc 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Habacuc 3:1-15
12 Days
This Bible Plan is for anyone who’s hurting and doesn’t understand why. If you’ve lost something, someone, or your faith feels stretched to the breaking point, then this Bible Plan from Life.Church Pastor Craig Groeschel’s book, Hope in the Dark, might be exactly what you need. If you want to believe, but you’re not sure how, this is for you.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos