Yna llefarodd Duw wrth Noa, a dweud, “Dos allan o'r arch, ti a'th wraig a'th feibion a gwragedd dy feibion gyda thi; a dwg allan gyda thi bob creadur byw o bob cnawd, yn adar ac anifeiliaid a phopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, er mwyn iddynt epilio ar y ddaear, a ffrwytho ac amlhau ynddi.” Felly aeth Noa allan gyda'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion; hefyd aeth allan o'r arch bob bwystfil, pob ymlusgiad, pob aderyn a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear, yn ôl eu rhywogaeth. Yna adeiladodd Noa allor i'r ARGLWYDD, a chymryd rhai o bob math o'r anifeiliaid glân ac o'r adar glân, ac offrymu poethoffrymau ar yr allor. A phan glywodd yr ARGLWYDD yr arogl hyfryd, dywedodd yr ARGLWYDD ynddo'i hun, “Ni felltithiaf y ddaear mwyach o achos dyn, er bod gogwydd ei feddwl yn ddrwg o'i ieuenctid; ni ddifethaf eto bopeth byw fel y gwneuthum. “Tra pery'r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos.”
Darllen Genesis 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 8:15-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos