Yna rhoes ei freichiau am wddf ei frawd Benjamin ac wylo; ac wylodd Benjamin ar ei ysgwydd yntau. Cusanodd ei frodyr i gyd, gan wylo. Wedyn cafodd ei frodyr sgwrs ag ef. Pan ddaeth y newydd i dŷ Pharo fod brodyr Joseff wedi cyrraedd, llawenhaodd Pharo a'i weision. Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dywed wrth dy frodyr, ‘Gwnewch fel hyn: llwythwch eich anifeiliaid a theithio'n ôl i wlad Canaan. Yna dewch â'ch tad a'ch teuluoedd ataf, a rhof ichwi orau gwlad yr Aifft, a chewch fyw ar fraster y wlad.’ Yna gorchymyn iddynt, ‘Gwnewch fel hyn: cymerwch wageni o wlad yr Aifft i'ch rhai bach ac i'ch gwragedd, a dewch â'ch tad yma. Peidiwch â phryderu am eich celfi; y mae gorau holl wlad yr Aifft at eich galwad.’ ”
Darllen Genesis 45
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 45:14-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos