Yna anfonodd Pharo am Joseff, a daethant ag ef ar frys o'r gell; eilliodd yntau a newid ei ddillad, a daeth at Pharo. A dywedodd Pharo wrth Joseff, “Cefais freuddwyd, ac ni all neb ei dehongli, ond clywais amdanat ti dy fod yn gallu gwrando breuddwyd a'i dehongli.” Atebodd Joseff Pharo a dweud, “Nid myfi; Duw a rydd ateb ffafriol i Pharo.” Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn sefyll ar lan y Neil, a dyma saith o wartheg tew a phorthiannus yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd; ac yna saith o wartheg eraill truenus a nychlyd a thenau iawn, yn dod ar eu hôl; ni welais rai cynddrwg yn holl dir yr Aifft. Bwytaodd y gwartheg tenau a nychlyd y saith o wartheg tewion cyntaf, ond er iddynt eu bwyta nid oedd ôl hynny arnynt, gan eu bod mor denau â chynt. Yna deffroais. Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd saith o dywysennau llawn a da yn tyfu ar un gwelltyn; a dyma saith dywysen fain a thenau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl. Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen dda. Adroddais hyn wrth y dewiniaid, ond ni allai neb ei egluro i mi.” Yna dywedodd Joseff wrth Pharo, “Un ystyr sydd i freuddwyd Pharo; y mae Duw wedi mynegi i Pharo yr hyn y mae am ei wneud.
Darllen Genesis 41
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 41:14-25
4 Days
Most of us will spend about 50 percent of our adult life at work. We want to know our work has meaning – that our work matters. But stress, demands and adversity can cause us to see work as hard – something to get through. This reading plan will help you recognize the power you have to choose a positive meaning for your work that is rooted in faith.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos