Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 39:1-12

Genesis 39:1-12 BCND

Cymerwyd Joseff i lawr i'r Aifft, a phrynwyd ef o law yr Ismaeliaid, a oedd wedi mynd ag ef yno, gan Potiffar, Eifftiwr oedd yn swyddog i Pharo ac yn bennaeth y gwarchodwyr. Bu'r ARGLWYDD gyda Joseff, a daeth yn ŵr llwyddiannus. Yr oedd yn byw yn nhŷ ei feistr yr Eifftiwr, a gwelodd ei feistr fod yr ARGLWYDD gydag ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo popeth yr oedd yn ei wneud. Cafodd Joseff ffafr yn ei olwg, a bu'n gweini arno; gwnaeth yntau ef yn arolygydd ar ei dŷ a rhoi ei holl eiddo dan ei ofal. Ac o'r amser y gwnaeth ef yn arolygydd ar ei dŷ ac ar ei holl eiddo, bendithiodd yr ARGLWYDD dŷ'r Eifftiwr er mwyn Joseff; yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar ei holl eiddo, yn y tŷ ac yn y maes. Gadawodd ei holl eiddo yng ngofal Joseff, ac nid oedd gofal arno am ddim ond y bwyd yr oedd yn ei fwyta. Yr oedd Joseff yn olygus a glân, ac ymhen amser rhoddodd gwraig ei feistr ei bryd ar Joseff a dweud, “Gorwedd gyda mi.” Ond gwrthododd, a dweud wrth wraig ei feistr, “Nid oes gofal ar fy meistr am ddim yn y tŷ; y mae wedi rhoi ei holl eiddo yn fy ngofal i. Nid oes neb yn fwy na mi yn y tŷ hwn, ac nid yw wedi cadw dim oddi wrthyf ond tydi, am mai ei wraig wyt. Sut felly y gwnawn i y drwg mawr hwn, a phechu yn erbyn Duw?” Ac er iddi grefu ar Joseff beunydd, ni wrandawodd arni; ni orweddodd gyda hi na chymdeithasu â hi. Ond un diwrnod, pan aeth i'r tŷ ynglŷn â'i waith, heb fod neb o weision y tŷ yno, fe'i daliodd ef gerfydd ei wisg, a dweud, “Gorwedd gyda mi.” Ond gadawodd ef ei wisg yn ei llaw a ffoi allan.