Rho imi fy ngwragedd a'm plant yr wyf wedi gweithio amdanynt, a gad imi fynd; oherwydd gwyddost fel yr wyf wedi gweithio iti.” Ond dywedodd Laban wrtho, “Os caf ddweud, yr wyf wedi dod i weld mai o'th achos di y mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i; noda dy gyflog, ac fe'i talaf.” Atebodd yntau, “Gwyddost sut yr wyf wedi gweithio iti, a sut y bu ar dy anifeiliaid gyda mi; ychydig oedd gennyt cyn i mi ddod, ond cynyddodd yn helaeth, a bendithiodd yr ARGLWYDD di bob cam. Yn awr, onid yw'n bryd i mi ddarparu ar gyfer fy nheulu fy hun?” Dywedodd Laban, “Beth a rof i ti?” Atebodd Jacob, “Nid wyt i roi dim i mi. Ond fe fugeiliaf dy braidd eto a'u gwylio, os gwnei hyn imi
Darllen Genesis 30
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 30:26-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos