Yna galwodd Isaac ar Jacob, a bendithiodd ef. Gorchmynnodd iddo, “Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan. Cod, dos i Padan Aram, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymer iti yno wraig o blith merched Laban brawd dy fam. Boed i Dduw Hollalluog dy fendithio, a'th wneud yn ffrwythlon a lluosog fel y byddi'n gynulliad o bobloedd. Rhodded ef fendith Abraham i ti ac i'th hil hefyd, fel y cei etifeddu'r wlad yr wyt yn ymdeithio ynddi, yr un a roddodd Duw i Abraham.” Felly, anfonodd Isaac Jacob ymaith; ac aeth yntau i Padan Aram at Laban fab Bethuel yr Aramead, brawd Rebeca mam Jacob ac Esau.
Deallodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon ymaith i Padan Aram i gymryd gwraig oddi yno, ac iddo orchymyn iddo wrth ei fendithio, “Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan”, a bod Jacob wedi gwrando ar ei rieni a mynd i Padan Aram. Pan welodd Esau nad oedd merched Canaan wrth fodd Isaac ei dad, aeth at Ismael a chymryd yn wraig, at ei wragedd eraill, Mahalath ferch Ismael, fab Abraham, chwaer Nebaioth.
Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran. A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno. Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi. A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion; bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion. Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi'n ôl i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais.” Pan ddeffrôdd Jacob o'i gwsg, dywedodd, “Y mae'n sicr fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac ni wyddwn i.”