Cymerodd Abraham wraig arall o'r enw Cetura. Ohoni hi ganwyd iddo Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua. Jocsan oedd tad Seba a Dedan; a meibion Dedan oedd Assurim, Letusim a Lewmmim. Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura. Rhoddodd Abraham ei holl eiddo i Isaac. Ond tra oedd eto'n fyw, yr oedd Abraham wedi rhoi anrhegion i feibion ei wragedd gordderch, ac wedi eu hanfon ymaith oddi wrth ei fab Isaac, draw i wlad ddwyreiniol.
Yr oedd oes gyfan Abraham yn gant saith deg a phump o flynyddoedd. Anadlodd Abraham ei anadl olaf, a bu farw wedi oes hir, yn hen ac oedrannus; a chladdwyd ef gyda'i dylwyth. Claddwyd ef gan ei feibion Isaac ac Ismael yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, i'r dwyrain o Mamre, y maes yr oedd Abraham wedi ei brynu gan yr Hethiaid. Yno y claddwyd Abraham gyda'i wraig Sara. Wedi marw Abraham bendithiodd Duw ei fab Isaac, ac arhosodd Isaac ger Beer-lahai-roi.
Dyma genedlaethau Ismael fab Abraham, a anwyd iddo o Hagar yr Eifftes, morwyn Sara. Dyma enwau meibion Ismael, yn nhrefn eu geni: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, a Cedar, Adbeel, Mibsam, Misma, Duma, Massa, Hadad, Tema, Jetur, Naffis a Cedema. Dyna feibion Ismael, a dyna enwau deuddeg tywysog y llwythau yn ôl eu trefi a'u gwersylloedd. Hyd oes Ismael oedd cant tri deg a saith o flynyddoedd; anadlodd ei anadl olaf, a chladdwyd ef gyda'i dylwyth. Yr oeddent yn trigo o Hafila hyd Sur, i'r dwyrain o'r Aifft, i gyfeiriad Asyria; yr oeddent yn erbyn eu holl frodyr.
Dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: tad Isaac oedd Abraham, ac yr oedd Isaac yn ddeugain mlwydd oed pan gymerodd yn wraig Rebeca ferch Bethuel yr Aramead o Padan Aram, chwaer Laban yr Aramead. A gweddïodd Isaac ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod heb eni plentyn. Atebodd yr ARGLWYDD ei weddi, a beichiogodd ei wraig Rebeca. Aflonyddodd y plant ar ei gilydd yn ei chroth, a dywedodd hithau, “Pam y mae fel hyn arnaf?” Aeth i ymofyn â'r ARGLWYDD, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi,
“Dwy genedl sydd yn dy groth,
a gwahenir dau lwyth o'th fru,
bydd y naill yn gryfach na'r llall,
a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.”
Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth. Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau. Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy.
Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn ŵr y maes; ond yr oedd Jacob yn ŵr tawel, yn byw mewn pebyll. Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob.
Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio. A dywedodd Esau wrth Jacob, “Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio.” Dyna pam y galwyd ef Edom. Dywedodd Jacob, “Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint.” A dywedodd Esau, “Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?” Dywedodd Jacob, “Dos ar dy lw i mi yn awr.” Felly aeth ar ei lw, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i Jacob. Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.