Ymwelodd yr ARGLWYDD â Sara yn ôl ei air, a gwnaeth iddi fel yr addawodd. Beichiogodd Sara a geni mab i Abraham yn ei henaint, ar yr union adeg a ddywedodd Duw wrtho. Rhoes Abraham i'r mab a anwyd iddo o Sara yr enw Isaac; ac enwaedodd Abraham ei fab Isaac yn wyth diwrnod oed, fel yr oedd Duw wedi gorchymyn iddo. Yr oedd Abraham yn gant oed pan anwyd iddo ei fab Isaac. A dywedodd Sara, “Parodd Duw imi chwerthin; fe fydd pawb a glyw am hyn yn chwerthin gyda mi.” Dywedodd hefyd, “Pwy fuasai wedi dweud wrth Abraham y rhoddai Sara sugn i blant? Eto mi enais fab iddo yn ei henaint.”
Tyfodd y bachgen, a diddyfnwyd ef; ac ar ddiwrnod diddyfnu Isaac, gwnaeth Abraham wledd fawr. Ond gwelodd Sara y mab a ddygodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn chwarae gyda'i mab Isaac. A dywedodd wrth Abraham, “Gyrr allan y gaethferch hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethferch hon gydetifeddu â'm mab i, Isaac.” Yr oedd hyn yn atgas iawn gan Abraham o achos ei fab; ond dywedodd Duw wrth Abraham, “Paid â phoeni am y llanc a'th gaethferch; gwna bopeth a ddywed Sara wrthyt, oherwydd trwy Isaac y cedwir dy linach. Gwnaf fab y gaethferch hefyd yn genedl, am ei fod yn blentyn i ti.” Yna cododd Abraham yn fore, a chymerodd fara a chostrel o ddŵr a'u rhoi i Hagar, a'u gosod hwy a'r bachgen ar ei hysgwydd, a'i hanfon ymaith. Aeth hithau i grwydro yn niffeithwch Beerseba. Pan oedd y dŵr yn y gostrel wedi darfod, gosododd y bachgen i lawr dan un o'r llwyni, ac aeth i eistedd bellter ergyd bwa oddi wrtho, gan ddweud, “Ni allaf edrych ar y bachgen yn marw.” Fel yr oedd yn eistedd bellter oddi wrtho, cododd y bachgen ei lais ac wylo. Clywodd Duw lais y plentyn, a galwodd angel Duw o'r nef ar Hagar a dweud wrthi, “Beth sy'n dy boeni, Hagar? Paid ag ofni, oherwydd y mae Duw wedi clywed llais y plentyn o'r lle y mae. Cod, cymer y plentyn a gafael amdano, oherwydd gwnaf ef yn genedl fawr.” Yna agorodd Duw ei llygaid, a gwelodd bydew dŵr; aeth hithau i lenwi'r gostrel â dŵr a rhoi diod i'r plentyn. Bu Duw gyda'r plentyn, a thyfodd; bu'n byw yn y diffeithwch, a daeth yn saethwr bwa. Yr oedd yn byw yn niffeithwch Paran, a chymerodd ei fam wraig iddo o wlad yr Aifft.