Ar doriad gwawr, bu'r angylion yn erfyn ar Lot, gan ddweud, “Cod, cymer dy wraig a'r ddwy ferch sydd gyda thi, rhag dy ddifa pan gosbir y ddinas.” Yr oedd yntau'n oedi, ond gan fod yr ARGLWYDD yn tosturio wrtho, cydiodd y gwŷr yn ei law ac yn llaw ei wraig a'i ddwy ferch, a'u harwain a'u gosod y tu allan i'r ddinas. Wedi iddynt eu dwyn allan, dywedodd un, “Dianc am dy einioes; paid ag edrych yn ôl, na sefyllian yn y gwastadedd; dianc i'r mynydd rhag dy ddifa.” Ac meddai Lot, “Na! Nid felly, f'arglwydd; dyma dy was wedi cael ffafr yn d'olwg, a gwnaethost drugaredd fawr â mi yn arbed fy einioes; ond ni allaf ddianc i'r mynydd, rhag i'r niwed hwn fy ngoddiweddyd ac imi farw. Dacw ddinas agos i ffoi iddi, ac un fechan ydyw. Gad imi ddianc yno, imi gael byw; onid un fach yw hi?” Atebodd yntau, “o'r gorau, caniatâf y dymuniad hwn hefyd, ac ni ddinistriaf y ddinas a grybwyllaist. Dianc yno ar frys; oherwydd ni allaf wneud dim nes i ti gyrraedd yno.” Am hynny, galwyd y ddinas Soar. Erbyn i Lot gyrraedd Soar, yr oedd yr haul wedi codi dros y tir; yna glawiodd yr ARGLWYDD frwmstan a thân dwyfol o'r nefoedd ar Sodom a Gomorra. Dinistriodd y dinasoedd hynny a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chynnyrch y pridd. Ond yr oedd gwraig Lot wedi edrych yn ei hôl, a throdd yn golofn halen.
Darllen Genesis 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 19:15-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos