Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abraham wrth dderw Mamre, pan oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yng ngwres y dydd. Cododd ei olwg a gwelodd dri gŵr yn sefyll o'i flaen. Pan welodd hwy, rhedodd o ddrws y babell i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr, a dweud, “F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid â mynd heibio i'th was. Dyger ychydig ddŵr, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden, a dof finnau â thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas.” Ac meddant, “Gwna fel y dywedaist.”
Darllen Genesis 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 18:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos