“Dyma enwau'r llwythau. Ar derfyn y gogledd, wrth ymyl ffordd Hethlon i Lebo-hamath a Hasar-enan, gyda Damascus ar derfyn y gogledd at ymyl Hamath, ac yn ymestyn o ddwyrain i orllewin, bydd Dan: un gyfran. Ar derfyn Dan, o ddwyrain i orllewin, bydd Aser: un gyfran. Ar derfyn Aser, o ddwyrain i orllewin, bydd Nafftali: un gyfran. Ar derfyn Nafftali, o ddwyrain i orllewin, bydd Manasse: un gyfran. Ar derfyn Manasse, o ddwyrain i orllewin, bydd Effraim: un gyfran. Ar derfyn Effraim, o ddwyrain i orllewin, bydd Reuben: un gyfran. Ar derfyn Reuben, o ddwyrain i orllewin, bydd Jwda: un gyfran. Ar derfyn Jwda, o ddwyrain i orllewin, bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig; bydd yn bum mil ar hugain o gufyddau o led, a bydd yn ymestyn o ddwyrain i orllewin yn gyfartal â chyfran un o'r llwythau; a bydd y cysegr yn ei chanol. Bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig i'r ARGLWYDD yn bum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led.
Darllen Eseciel 48
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseciel 48:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos