Eseciel 22:24-31
Eseciel 22:24-31 BCND
“Fab dyn, dywed wrthi, ‘Gwlad heb gael cawodydd na glaw fuost yn nydd dicter.’ Y mae brad ei thywysogion o'i mewn fel rhu llew yn llarpio'i ysglyfaeth; y maent yn traflyncu pobl, yn cymryd eu cyfoeth a'u trysor, ac yn gwneud llawer yn weddwon o'i mewn. Y mae ei hoffeiriaid yn treisio fy nghyfraith ac yn halogi fy mhethau sanctaidd; nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, nac yn cydnabod gwahaniaeth rhwng glân ac aflan; y maent yn anwybyddu fy Sabothau, ac fe'm halogir yn eu mysg. Y mae ei swyddogion o'i mewn fel bleiddiaid yn llarpio ysglyfaeth; y maent yn tywallt gwaed ac yn lladd pobl er mwyn gwneud elw. Y mae ei phroffwydi'n gwyngalchu drostynt â gweledigaethau gau ac argoelion twyllodrus, ac yn dweud, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW’, a'r ARGLWYDD heb ddweud. Y mae pobl y wlad yn arfer trais ac yn lladrata; y maent yn gorthrymu'r tlawd a'r anghenog, ac yn treisio'r dieithryn gan atal cyfiawnder. Chwiliais am rywun yn eu mysg a allai adeiladu mur, a sefyll o'm blaen yn y bwlch, i amddiffyn y wlad rhag dinistr, ond ni chefais yr un. Tywelltais fy llid arnynt a'u dinistrio â'm dicter tanllyd, a dwyn ar eu pennau eu hunain yr hyn a wnaethant,” medd yr Arglwydd DDUW.

