ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl. Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau. Lledodd y babell dros y tabernacl, a gosod to'r babell drosto, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. Cymerodd y dystiolaeth a'i rhoi yn yr arch; cysylltodd y polion wrth yr arch, a rhoi'r drugareddfa arni. Yna daeth â'r arch i mewn i'r tabernacl, a gosod y gorchudd yn ei le dros arch y dystiolaeth, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. Rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod, ar ochr ogleddol y tabernacl, y tu allan i'r gorchudd, a threfnodd y bara arno gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl, a goleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. Rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y gorchudd, ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl, a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddŵr, er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed. Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nesáu at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Cododd gyntedd o amgylch y tabernacl a'r allor, a rhoddodd y gorchudd dros borth y cyntedd. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.
Yna gorchuddiodd cwmwl babell y cyfarfod, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl. Ni allai Moses fynd i mewn i babell y cyfarfod am fod y cwmwl yn ei gorchuddio, ac am fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl. Pan godai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, fe gychwynnai pobl Israel ar eu taith; ond os na chodai'r cwmwl ni chychwynnent. Ar hyd y daith yr oedd holl dŷ Israel yn gallu gweld cwmwl yr ARGLWYDD uwchben y tabernacl yn ystod y dydd, a thân uwch ei ben yn ystod y nos.