Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyt i godi'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf. Gosod arch y dystiolaeth ynddo, a'i gorchuddio â llen. Cymer y bwrdd i mewn, a'i osod yn drefnus, a chymer y canhwyllbren, a goleua ei lampau. Rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y dystiolaeth, a gosod y llen ar ddrws y tabernacl. Rho allor y poethoffrwm o flaen drws y tabernacl, pabell y cyfarfod, a gosod y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi. Gosod y cyntedd o'i amgylch, a llen ar gyfer porth y cyntedd. Yna cymer olew'r ennaint, ac eneinio'r tabernacl a'r cyfan sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl ddodrefn; a bydd yn gysegredig. Eneinia hefyd allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a chysegra'r allor; a bydd yr allor yn gysegredig iawn. Yna eneinia'r noe a'i throed, a chysegra hi. Tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr, a gwisg Aaron â'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad. Tyrd â'i feibion hefyd, a'u gwisgo â'r siacedau; eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau.” Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo
Darllen Exodus 40
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 40:1-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos