Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos i lawr, oherwydd y mae'r bobl y daethost â hwy i fyny o wlad yr Aifft wedi eu halogi eu hunain. Y maent wedi cilio'n gyflym oddi wrth y ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hunain lo tawdd, ac y maent wedi ei addoli ac aberthu iddo, a dweud, ‘Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.’ ” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyf wedi gweld mor wargaled yw'r bobl hyn; yn awr, gad lonydd imi er mwyn i'm llid ennyn yn eu herbyn a'u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr.” Ymbiliodd Moses â'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud, “O ARGLWYDD, pam y mae dy lid yn ennyn yn erbyn dy bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft â nerth mawr ac â llaw gadarn? Pam y caiff yr Eifftiaid ddweud, ‘Â malais yr aeth â hwy allan, er mwyn eu lladd yn y mynyddoedd a'u difa oddi ar wyneb y ddaear’? Tro oddi wrth dy lid angerddol, a bydd edifar am iti fwriadu drwg i'th bobl. Cofia Abraham, Isaac ac Israel, dy weision y tyngaist iddynt yn d'enw dy hun a dweud, ‘Amlhaf eich disgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoddaf yr holl wlad hon iddynt, fel yr addewais, yn etifeddiaeth am byth.’ ” Yna bu'n edifar gan yr ARGLWYDD am iddo fwriadu drwg i'w bobl.
Darllen Exodus 32
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 32:7-14
7 Days
Just like Superman, who can defeat every foe, you as a Christ follower have the supernatural ability to conquer the challenges you face. But the problem for both Superman and you is there’s a kryptonite that steals your strength. This plan will help you uproot spiritual kryptonite from your life, so you can fulfill your God-given potential and embrace a life without limitations.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos