Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd â'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un, a gwna arogldarth a'i gymysgu fel y gwna'r peraroglydd, a'i dymheru â halen i'w wneud yn bur a chysegredig. Cura beth ohono'n fân a'i roi o flaen y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle byddaf yn cyfarfod â thi; bydd yn gysegredig iawn gennych. Peidiwch â gwneud arogldarth fel hwn i chwi eich hunain; bydd yn gysegredig i'r ARGLWYDD. Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, i fwynhau ei arogl.”
Darllen Exodus 30
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 30:34-38
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos