Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Tyrd i fyny ataf i'r mynydd, ac aros yno; yna fe roddaf iti lechau o gerrig, gyda'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennais ar eu cyfer i'w hyfforddi.” Felly cododd Moses a'i was, Josua, ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw. Dywedodd wrth yr henuriaid, “Arhoswch yma amdanom nes inni ddod yn ôl atoch; bydd Aaron a Hur gyda chwi, ac os bydd gan rywun gŵyn, aed atynt hwy.” Aeth Moses i fyny i'r mynydd, a gorchuddiwyd y mynydd gan gwmwl. Arhosodd gogoniant yr ARGLWYDD ar Fynydd Sinai, a gorchuddiodd y cwmwl y mynydd am chwe diwrnod; yna ar y seithfed dydd, galwodd Duw ar Moses o ganol y cwmwl. Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos yng ngolwg pobl Israel fel tân yn difa ar ben y mynydd. Aeth Moses i ganol y cwmwl, a dringodd i fyny'r mynydd, a bu yno am ddeugain diwrnod a deugain nos.
Darllen Exodus 24
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 24:12-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos