Priododd gŵr o dylwyth Lefi ag un o ferched Lefi. Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a phan welodd ei fod yn dlws, fe'i cuddiodd am dri mis. Ond gan na allai ei guddio'n hwy, cymerodd gawell wedi ei wneud o lafrwyn a'i ddwbio â chlai a phyg; rhoddodd y plentyn ynddo a'i osod ymysg yr hesg ar lan y Neil. Yr oedd chwaer y plentyn yn sefyll nid nepell oddi wrtho er mwyn cael gwybod beth a ddigwyddai iddo. Daeth merch Pharo i ymdrochi yn yr afon tra oedd ei morynion yn cerdded ar y lan, a phan welodd y cawell yng nghanol yr hesg, anfonodd un ohonynt i'w nôl. Wedi iddi ei agor, fe welodd y plentyn, ac yr oedd y bachgen yn wylo. Tosturiodd hithau wrtho a dweud, “Un o blant yr Hebreaid yw hwn.” Yna gofynnodd chwaer y plentyn i ferch Pharo, “A gaf fi fynd i chwilio am famaeth o blith gwragedd yr Hebreaid, iddi fagu'r plentyn iti?” Atebodd merch Pharo, “Dos.” Felly aeth y ferch ymaith a galw mam y plentyn. Dywedodd merch Pharo wrth honno, “Cymer y plentyn hwn a'i fagu imi, ac fe roddaf finnau dâl iti.” Felly cymerodd y wraig y plentyn a'i fagu. Wedi i'r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a'i enwi'n Moses, oherwydd iddi ddweud, “Tynnais ef allan o'r dŵr.”
Darllen Exodus 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 2:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos