Yna dywedodd y brenin wrth Haman, “Dos ar frys i gael y wisg a'r ceffyl fel y dywedaist, a gwna hyn i Mordecai yr Iddew, sy'n eistedd ym mhorth y brenin. Gofala wneud popeth a ddywedaist.” Felly cymerodd Haman y wisg a'r ceffyl; gwisgodd Mordecai a'i arwain ar gefn y ceffyl trwy sgwâr y ddinas, a chyhoeddi o'i flaen: “Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.” Yna dychwelodd Mordecai i borth y brenin, ond brysiodd Haman adref yn drist, â gorchudd am ei ben. Dywedodd wrth ei wraig Seres a'i holl gyfeillion am y cyfan a ddigwyddodd iddo. Ac meddai ei wŷr doeth a'i wraig Seres wrtho, “Os yw Mordecai, yr wyt yn dechrau cwympo o'i flaen, yn Iddew, ni orchfygi di mohono; ond yr wyt ti'n sicr o gael dy drechu ganddo ef.”
Darllen Esther 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Esther 6:10-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos