Ar y trydydd dydd, rhoddodd Esther ei gwisg frenhinol amdani a sefyll yng nghyntedd mewnol y palas gyferbyn ag ystafell y brenin. Yr oedd y brenin yn eistedd ar ei orsedd frenhinol yn y palas gyferbyn â'r fynedfa. Pan welodd y brenin y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd, fe enillodd hi ei ffafr, ac estynnodd ati'r deyrnwialen aur oedd yn ei law; daeth hithau yn nes a chyffwrdd â blaen y deyrnwialen. Yna dywedodd y brenin wrthi, “Beth sy'n bod, Frenhines Esther? Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei.” Atebodd Esther, “Os gwêl y brenin yn dda, hoffwn iddo ef a Haman ddod i'r wledd a baratoais iddo heddiw.” Gorchmynnodd y brenin gyrchu Haman ar frys, er mwyn gwneud fel y dymunai Esther; yna fe aeth y brenin a Haman i'r wledd a baratôdd Esther. Wrth iddynt yfed gwin, dywedodd y brenin wrth Esther, “Fe gei di beth bynnag y gofynni amdano. Gwneir beth bynnag a fynni, hyd hanner y deyrnas.” Atebodd Esther, “Dyma fy nghais a'm dymuniad: os cefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac os gwêl ef yn dda roi fy neisyfiad a gwneud fy nymuniad, bydded i'r brenin a Haman ddod i'r wledd yr wyf fi am ei pharatoi iddynt; yna yfory gwnaf fel y mae'r brenin yn dweud.”
Darllen Esther 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Esther 5:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos