Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eiriau gwag neb; o achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai sy'n anufudd iddo. Peidiwch felly â chyfathrachu â hwy; tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni, oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd. Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni. Gwarthus yw hyd yn oed crybwyll y pethau a wneir ganddynt yn y dirgel. Ond y mae pob peth a ddadlennir gan y goleuni yn dod yn weladwy, oherwydd goleuni yw pob peth a wneir yn weladwy. Am hynny y dywedir: “Deffro, di sydd yn cysgu, a chod oddi wrth y meirw, ac fe dywynna Crist arnat.” Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg. Am hynny, peidiwch â bod yn ffôl, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd. Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd. Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd. Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist; a byddwch ddarostyngedig i'ch gilydd, o barchedig ofn tuag at Grist.
Darllen Effesiaid 5
Gwranda ar Effesiaid 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Effesiaid 5:6-21
21 Days
In the 21 Days to Overflow YouVersion plan, Jeremiah Hosford will take readers on a 3-week journey of emptying themselves of themselves, being filled with the Holy Spirit, and living out an overflowing, Spirit-filled life. It’s time to stop living normally and start living an overflowing life!
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos