Effesiaid 4:26-32
Effesiaid 4:26-32 BCND
Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint, a pheidiwch â rhoi cyfle i'r diafol. Y mae'r lleidr i beidio â lladrata mwyach; yn hytrach, dylai ymroi i weithio'n onest â'i ddwylo ei hun, er mwyn cael rhywbeth i'w rannu â'r sawl sydd mewn angen. Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o'ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn ôl yr angen, ac felly'n dwyn bendith i'r sawl sy'n eu clywed. Peidiwch â thristáu Ysbryd Glân Duw, yr Ysbryd y gosodwyd ei sêl arnoch ar gyfer dydd eich prynu'n rhydd. Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen, ynghyd â phob drwgdeimlad. Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.




