Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr,
a dydd marw yn well na dydd geni.
Y mae'n well mynd i dŷ galar
na mynd i dŷ gwledd;
oherwydd marw yw tynged pawb,
a dylai'r byw ystyried hyn.
Y mae tristwch yn well na chwerthin;
er i'r wyneb fod yn drist, gall y galon fod yn llawen.
Y mae calon y doethion yn nhŷ galar,
ond calon y ffyliaid yn nhŷ pleser.
Y mae'n well gwrando ar gerydd y doeth
na gwrando ar gân ffyliaid.
Oherwydd y mae chwerthin y ffŵl
fel clindarddach drain o dan grochan.
Y mae hyn hefyd yn wagedd.
Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd,
ac y mae cildwrn yn llygru'r meddwl.
Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau,
ac amynedd yn well nag ymffrost.
Paid â rhuthro i ddangos dig,
oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.
Paid â dweud, “Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?”
Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.
Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth,
ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul.
Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian;
mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.
Ystyria'r hyn a wnaeth Duw;
pwy all unioni'r hyn a wyrodd ef?
Bydd lawen pan yw'n dda arnat,
ond yn amser adfyd ystyria hyn:
Duw a wnaeth y naill beth a'r llall,
fel na all neb ganfod beth a fydd yn dilyn.
Yn ystod fy oes o wagedd gwelais y cyfan: un cyfiawn yn darfod yn ei gyfiawnder, ac un drygionus yn cael oes faith yn ei ddrygioni. Paid â bod yn rhy gyfiawn, a phaid â bod yn or-ddoeth; pam y difethi dy hun? Paid â bod yn rhy ddrwg, a phaid â bod yn ffŵl; pam y byddi farw cyn dy amser? Y mae'n werth iti ddal dy afael ar y naill beth, a pheidio â gollwng y llall o'th law. Yn wir, y mae'r un sy'n ofni Duw yn eu dilyn ill dau.
Y mae doethineb yn rhoi mwy o gryfder i'r doeth nag sydd gan ddeg llywodraethwr mewn dinas.
Yn wir, nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni, heb bechu.
Paid â chymryd sylw o bob gair a ddywedir, rhag ofn iti glywed dy was yn dy felltithio; yn wir fe wyddost dy fod ti dy hun wedi melltithio eraill lawer gwaith.
Yr wyf wedi rhoi prawf ar hyn i gyd trwy ddoethineb. Dywedais, “Yr wyf am fod yn ddoeth,” ond yr oedd yn bell oddi wrthyf. Y mae'r hyn sy'n digwydd yn bell ac yn ddwfn iawn; pwy a all ei ganfod? Fe euthum ati i ddeall â'm meddwl, i chwilio a cheisio doethineb a rheswm, a deall drygioni ffolineb, a ffolineb ynfydrwydd. A chanfûm rywbeth chwerwach na marwolaeth: gwraig sydd â'i chalon yn faglau a rhwydau, a'i dwylo'n rhwymau. Y mae'r un sy'n dda yng ngolwg Duw yn dianc oddi wrthi, ond fe ddelir y pechadur ganddi. “Edrych, dyma'r peth a ganfûm,” medd y Pregethwr, “trwy osod y naill beth wrth y llall i chwilio am ystyr, oherwydd yr oeddwn yn chwilio amdano'n ddyfal ond yn methu ei gael; canfûm un dyn ymhlith mil, ond ni chefais yr un wraig ymhlith y cyfan ohonynt. Edrych, hyn yn unig a ganfûm: bod Duw wedi creu pobl yn uniawn; ond y maent hwy wedi ceisio llawer o gynlluniau.”