Ni ddigonir yr ariangar ag arian, na'r un sy'n caru cyfoeth ag elw. Y mae hyn hefyd yn wagedd. Pan yw cyfoeth yn cynyddu, y mae'r rhai sy'n byw arno yn amlhau; a pha fudd sydd i'w berchennog ond edrych arno? Y mae cwsg y gweithiwr yn felys, boed wedi bwyta ychydig neu lawer; ond y mae digonedd y cyfoethog yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel. Gwelais ddrwg poenus dan yr haul: cyfoeth wedi ei gadw yn peri niwed i'w berchennog, a'r cyfoeth yn diflannu trwy anffawd flin, ac yntau, pan gaiff fab, heb ddim i'w roi iddo. Fel y daeth allan o groth ei fam, bydd yn dychwelyd yno yn noeth, yn union fel y daeth; ac ni chaiff ddim am ei lafur i'w gymryd gydag ef. Y mae hyn hefyd yn ddrwg poenus: yn union fel y daeth, yr â pob un ymaith; a pha elw sydd iddo, ac yntau wedi llafurio am wynt?
Darllen Y Pregethwr 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Pregethwr 5:10-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos