Hefyd sylwais ar yr holl lafur a medr mewn gwaith, ei fod yn codi o genfigen rhwng rhywun a'i gymydog. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt. Y mae'r ffôl yn plethu ei ddwylo, ac yn ei ddifa'i hun. Gwell yw llond un llaw mewn llonyddwch na llond dwy law mewn gofid ac ymlid gwynt. Unwaith eto gwelais y gwagedd sydd dan yr haul: rhywun unig heb fod ganddo na chyfaill, na mab na brawd; nid oes diwedd ar ei holl lafur, eto nid yw cyfoeth yn rhoi boddhad iddo. Nid yw'n gofyn, “I bwy yr wyf yn llafurio, ac yn fy amddifadu fy hun o bleser?” Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn orchwyl diflas.
Darllen Y Pregethwr 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Pregethwr 4:4-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos