Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Pregethwr 3:1-22

Y Pregethwr 3:1-22 BCND

Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef: amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd; amser i ladd, ac amser i iacháu, amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu; amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio; amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu, amser i gofleidio, ac amser i ymatal; amser i geisio, ac amser i golli, amser i gadw, ac amser i daflu ymaith; amser i rwygo, ac amser i drwsio, amser i dewi, ac amser i siarad; amser i garu, ac amser i gasáu, amser i ryfel, ac amser i heddwch. Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio? Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni. Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd. Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da, a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur. Yr wyf yn gwybod hefyd fod y cyfan a wna Duw yn aros byth; ni ellir ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho. Gweithreda Duw fel hyn er mwyn i bobl ei barchu. Y mae'r hyn sy'n bod wedi bod eisoes, a'r hyn sydd i ddod hefyd wedi bod eisoes, ac y mae Duw yn chwilio am yr hyn a ddiflannodd. Hefyd gwelais dan yr haul fod drygioni wedi cymryd lle barn a chyfiawnder. Ond dywedais wrthyf fy hun, “Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith.” Dywedais wrthyf fy hun, “Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid.” Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd. Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd. Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear? Yna gwelais nad oes dim yn well i rywun na'i fwynhau ei hun yn ei waith, oherwydd dyna yw ei dynged. Pwy all wneud iddo weld beth fydd ar ei ôl?