Aeth Moses i fyny o rosydd Moab i Fynydd Nebo, i ben Pisga gyferbyn â Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD iddo y wlad gyfan, sef Gilead cyn belled â Dan, holl Nafftali a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda hyd fôr y gorllewin; yna'r Negef a gwastadedd dyffryn Jericho, dinas y palmwydd, cyn belled â Soar. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dyma'r wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob, a dweud, ‘Rhoddaf hi i'th ddisgynyddion.’ Dangosais hi i ti, ond ni chei fynd trosodd yno.” Ac yno yng ngwlad Moab y bu farw Moses gwas yr ARGLWYDD, yn ôl gair yr ARGLWYDD. Claddwyd ef mewn cwm yng ngwlad Moab, gyferbyn â Beth-peor, ac nid oes neb yn gwybod man ei fedd hyd y dydd hwn.
Darllen Deuteronomium 34
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Deuteronomium 34:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos