“Yn awr, ysgrifennwch y gerdd hon a'i dysgu i'r Israeliaid, a pheri iddynt ei hadrodd, fel y bydd yn dyst gennyf yn eu herbyn. Wedi imi ddod â hwy i'r tir a addewais i'w hynafiaid, tir yn llifeirio o laeth a mêl, lle y cânt fwyta'u gwala a phesgi, byddant yn troi at dduwiau estron ac yn eu gwasanaethu, ond byddant yn fy nirmygu i ac yn torri fy nghyfamod. Yna, pan ddaw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr, bydd y gerdd hon yn dyst yn eu herbyn; oherwydd nid â'n angof gan eu disgynyddion. Ond gwn beth y maent eisoes yn bwriadu ei wneud, cyn imi eu dwyn i mewn i'r wlad a addewais iddynt.” Ysgrifennodd Moses y gerdd hon y diwrnod hwnnw, a dysgodd hi i'r Israeliaid.
Darllen Deuteronomium 31
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Deuteronomium 31:19-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos