Gorchymyn i'r bobl a dweud wrthynt, ‘Yr ydych yn mynd i deithio trwy diriogaeth eich perthnasau, tylwyth Esau, sy'n byw yn Seir. Y maent yn eich ofni, ond gofalwch beidio ag ymosod arnynt, oherwydd ni roddaf i chwi gymaint â lled troed o'u tir, am fy mod wedi rhoi mynydd-dir Seir yn etifeddiaeth i Esau. Talwch ag arian am y bwyd a brynwch ganddynt i'w fwyta, a'r un modd am y dŵr a yfwch.’ Y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio yn y cyfan a wnaethost, ac wedi gwylio dy daith yn yr anialwch mawr hwn; am y deugain mlynedd hyn bu'r ARGLWYDD dy Dduw gyda thi, ac ni fu arnat eisiau dim.”
Darllen Deuteronomium 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Deuteronomium 2:4-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos