Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 6:13-23

Daniel 6:13-23 BCND

Dywedasant hwythau wrth y brenin, “Nid yw'r Daniel yma, o gaethglud Jwda, yn cymryd unrhyw sylw ohonot ti na'r gorchymyn a arwyddaist, O frenin, ond y mae'n gweddïo deirgwaith y dydd.” Pan glywodd y brenin hyn yr oedd yn drist iawn, a cheisiodd ffordd i achub Daniel, ac ymdrechu hyd fachlud haul i'w arbed. Ond daeth y rhain gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, “Gwyddost, O frenin, fod pob gorchymyn a deddf o eiddo'r brenin yn ddigyfnewid yn ôl cyfraith y Mediaid a'r Persiaid.” Felly gorchmynnodd y brenin iddynt ddod â Daniel, a'i daflu i ffau'r llewod; ond dywedodd wrth Daniel, “Bydded i'th Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub.” Yna daethant â maen, a'i osod ar geg y ffau, a seliodd y brenin ef â'i sêl ei hun a sêl ei bendefigion, rhag bod unrhyw newid ar y dyfarniad yn erbyn Daniel. Dychwelodd y brenin i'w balas a threulio'r noson mewn ympryd; ni ddaethpwyd â merched ato, ac ni allai gysgu. Yn y bore, ar doriad gwawr, cododd y brenin a mynd ar frys at ffau'r llewod. Wedi iddo gyrraedd y ffau, galwodd ar Daniel mewn llais pryderus a dweud, “Daniel, gwas y Duw byw, a fedrodd dy Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub rhag y llewod?” Atebodd Daniel y brenin, “O frenin, bydd fyw byth! Anfonodd fy Nuw ei angel, a chau safn y llewod fel na wnaethant niwed i mi, am fy mod yn ddieuog yn ei olwg; ni wneuthum niwed i tithau chwaith, O frenin.” Gorfoleddodd y brenin, a gorchymyn rhyddhau Daniel o'r ffau. A phan gafodd ei ryddhau, nid oedd unrhyw niwed i'w weld arno, am iddo ymddiried yn ei Dduw.