Cyhoeddwyd dedfryd fod y doethion i'w lladd; a chwiliwyd am Daniel a'i gyfeillion, i'w lladd hwythau. Ymresymodd Daniel yn ddoeth a phwyllog ag Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, pan ddaeth i ladd y doethion. Dywedodd wrtho, “Ti, gennad y brenin, pam y mae dedfryd y brenin mor chwyrn?” Eglurodd Arioch y cyfan i Daniel, ac aeth Daniel at y brenin a gofyn am amser, iddo gael cyfle i fynegi'r dehongliad iddo. Yna aeth Daniel i'w dŷ ac adrodd yr hanes wrth ei gyfeillion, Hananeia, Misael ac Asareia, a'u hannog hwy i erfyn am drugaredd gan Dduw'r nefoedd ynglŷn â'r dirgelwch hwn, rhag i Daniel a'i gyfeillion gael eu difa gyda'r gweddill o ddoethion Babilon. Datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos. Bendithiodd Daniel Dduw'r nefoedd, a dyma'i eiriau
Darllen Daniel 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Daniel 2:13-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos