Geiriau Amos, un o fugeiliaid Tecoa, a gafodd weledigaeth am Israel yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas brenin Israel, ddwy flynedd cyn y daeargryn. Dywedodd, “Rhua'r ARGLWYDD o Seion, a chwyd ei lef o Jerwsalem; galara porfeydd y bugeiliaid, a gwywa pen Carmel.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Damascus, ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl; am iddynt ddyrnu Gilead â llusg-ddyrnwyr haearn, anfonaf dân ar dŷ Hasael, ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad. Drylliaf farrau pyrth Damascus, a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen, a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden; a chaethgludir pobl Syria i Cir,” medd yr ARGLWYDD.
Darllen Amos 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Amos 1:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos