“Ymhen deugain mlynedd, fe ymddangosodd iddo yn anialwch Mynydd Sinai angel mewn fflam dân mewn perth. Pan welodd Moses ef, bu ryfedd ganddo'r olygfa. Wrth iddo nesu i edrych yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd: ‘Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob.’ Cafodd Moses fraw, ac ni feiddiai edrych. Yna dywedodd yr Arglwydd wrtho, ‘Datod dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r lle'r wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd. Gwelais, do, gwelais sut y mae fy mhobl sydd yn yr Aifft yn cael eu cam-drin, a chlywais eu griddfan, a deuthum i lawr i'w gwaredu. Yn awr tyrd, imi gael dy anfon di i'r Aifft.’ Y Moses hwn, y gŵr a wrthodasant gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr?’—hwnnw a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr, trwy law'r angel a ymddangosodd iddo yn y berth. Hwn a'u harweiniodd hwy allan, gan wneud rhyfeddodau ac arwyddion yng ngwlad yr Aifft ac yn y Môr Coch, ac am ddeugain mlynedd yn yr anialwch. Hwn yw'r Moses a ddywedodd wrth blant Israel, ‘Bydd Duw yn codi i chwi o blith eich cyd-genedl broffwyd, fel y cododd fi.’ Hwn yw'r un a fu yn y gynulleidfa yn yr anialwch, gyda'r angel a lefarodd wrtho ar Fynydd Sinai a chyda'n hynafiaid ni. Derbyniodd ef oraclau byw i'w rhoi i chwi. Eithr ni fynnodd ein hynafiaid ymddarostwng iddo, ond ei wthio o'r ffordd a wnaethant, a throi'n ôl yn eu calonnau at yr Aifft, gan ddweud wrth Aaron, ‘Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen; oherwydd y Moses yma, a ddaeth â ni allan o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddigwyddodd iddo.’ Gwnaethant lo y pryd hwnnw, ac offrymu aberth i'r eilun, ac ymlawenhau yng nghynnyrch eu dwylo eu hunain. A throes Duw ymaith, a'u rhoi i fyny i addoli sêr y nef, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi:
“ ‘A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau
am ddeugain mlynedd yn yr anialwch, dŷ Israel?
Na yn wir, dyrchafasoch babell Moloch,
a seren eich duw Raiffan,
y delwau a wnaethoch i'w haddoli.
Alltudiaf chwi y tu hwnt i Fabilon.’
“Yr oedd pabell y dystiolaeth gan ein hynafiaid yn yr anialwch, fel y gorchmynnodd yr hwn a lefarodd wrth Moses ei fod i'w llunio yn ôl y patrwm yr oedd wedi ei weld. Ac wedi ei derbyn yn eu tro, daeth ein hynafiaid â hi yma gyda Josua, wrth iddynt oresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o'u blaenau. Ac felly y bu hyd ddyddiau Dafydd. Cafodd ef ffafr gerbron Duw, a deisyfodd am gael tabernacl i dŷ Jacob. Eithr Solomon oedd yr un a adeiladodd dŷ iddo. Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith llaw; fel y mae'r proffwyd yn dweud:
“ ‘Y nefoedd yw fy ngorsedd,
a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed.
Pa fath dŷ a adeiladwch imi, medd yr Arglwydd;
ble fydd fy ngorffwysfa?
Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?’
“Chwi rai gwargaled a dienwaededig o galon a chlust, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân; fel eich hynafiaid, felly chwithau. P'run o'r proffwydi na fu'ch hynafiaid yn ei erlid? Ie, lladdasant y rhai a ragfynegodd ddyfodiad yr Un Cyfiawn. A chwithau yn awr, bradwyr a llofruddion fuoch iddo ef, chwi y rhai a dderbyniodd y Gyfraith yn ôl cyfarwyddyd angylion, ac eto ni chadwasoch mohoni.”
Wrth glywed y pethau hyn aethant yn ffyrnig yn eu calonnau, ac ysgyrnygu eu dannedd arno. Yn llawn o'r Ysbryd Glân, syllodd Steffan tua'r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu'n sefyll ar ddeheulaw Duw, a dywedodd, “Edrychwch, rwy'n gweld y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.” Rhoesant hwythau waedd uchel, a chau eu clustiau, a rhuthro'n unfryd arno, a'i fwrw allan o'r ddinas, a mynd ati i'w labyddio. Dododd y tystion eu dillad wrth draed dyn ifanc o'r enw Saul. Ac wrth iddynt ei labyddio, yr oedd Steffan yn galw, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.” Yna penliniodd, a gwaeddodd â llais uchel, “Arglwydd, paid â dal y pechod hwn yn eu herbyn.” Ac wedi dweud hynny, fe hunodd.