“Ond pan oeddwn ar fy nhaith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn tua chanol dydd fe fflachiodd goleuni mawr o'r nef o'm hamgylch. Syrthiais ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?’ Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu o Nasareth wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’ Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf. A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.’ Gan nad oeddwn yn gweld dim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe'm harweiniwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus. “Daeth rhyw Ananias ataf, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, a gair da iddo gan yr holl Iddewon oedd yn byw yno. Safodd hwn yn f'ymyl a dywedodd wrthyf, ‘Y brawd Saul, derbyn dy olwg yn ôl.’ Edrychais innau arno a derbyn fy ngolwg yn ôl y munud hwnnw.
Darllen Actau 22
Gwranda ar Actau 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 22:6-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos