Yr oeddent wedi gwrando arno hyd at y gair hwn, ond yna dechreusant weiddi, “Ymaith ag ef oddi ar y ddaear! Y mae'n warth fod y fath ddyn yn cael byw.” Fel yr oeddent yn gweiddi ac yn ysgwyd eu dillad ac yn taflu llwch i'r awyr, gorchmynnodd y capten ei ddwyn ef i mewn i'r pencadlys, a'i holi trwy ei chwipio, er mwyn cael gwybod pam yr oeddent yn bloeddio felly yn ei erbyn. Ond pan glymwyd ef i'w fflangellu, dywedodd Paul wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw, “A oes gennych hawl i fflangellu dinesydd Rhufeinig, a hynny heb farnu ei achos?” Pan glywodd y canwriad hyn, aeth at y capten, a rhoi adroddiad iddo, gan ddweud, “Beth yr wyt ti am ei wneud? Y mae'r dyn yma yn ddinesydd Rhufeinig.” Daeth y capten ato, ac meddai, “Dywed i mi, a wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?” “Ydwyf,” meddai yntau. Atebodd y capten, “Mi delais i swm mawr i gael y ddinasyddiaeth hon.” Ond dywedodd Paul, “Cefais i fy ngeni iddi.” Ar hyn, ciliodd y rhai oedd ar fin ei holi oddi wrtho. Daeth ofn ar y capten hefyd pan ddeallodd mai dinesydd Rhufeinig ydoedd, ac yntau wedi ei rwymo ef. Trannoeth, gan fod y capten am wybod yn sicr beth oedd cyhuddiad yr Iddewon, fe ollyngodd Paul yn rhydd, a gorchymyn i'r prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin ymgynnull. Yna daeth ag ef i lawr, a'i osod ger eu bron.
Darllen Actau 22
Gwranda ar Actau 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 22:22-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos