Pan oedd ar fin cael ei ddwyn i mewn i'r pencadlys, dyma Paul yn dweud wrth y capten, “A gaf fi ddweud gair wrthyt?” Meddai yntau, “A wyt ti yn medru Groeg? Nid tydi felly yw'r Eifftiwr a gododd derfysg beth amser yn ôl ac a arweiniodd allan i'r anialwch y pedair mil o derfysgwyr arfog?” Dywedodd Paul, “Iddew wyf fi, o Darsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid dinod; ac rwy'n erfyn arnat, caniatâ imi lefaru wrth y bobl.” Ac wedi iddo gael caniatâd, safodd Paul ar y grisiau, a gwnaeth arwydd â'i law ar y bobl, ac ar ôl cael distawrwydd llwyr anerchodd hwy yn iaith yr Iddewon, gan ddweud
Darllen Actau 21
Gwranda ar Actau 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 21:37-40
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos