Yn ystod y dyddiau lawer y buom gydag ef, daeth dyn i lawr o Jwdea, proffwyd o'r enw Agabus. Daeth atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo'i draed a'i ddwylo ei hun, a dweud, “Dyma eiriau'r Ysbryd Glân: ‘Y gŵr biau'r gwregys hwn, fel hyn y rhwyma'r Iddewon ef yn Jerwsalem, a'i draddodi i ddwylo'r Cenhedloedd.’ ” Pan glywsom hyn, dechreusom ni a phobl y lle erfyn arno i beidio â mynd i fyny i Jerwsalem. Yna atebodd Paul, “Beth yr ydych yn ei wneud, yn wylo ac yn torri fy nghalon? Oherwydd yr wyf fi'n barod, nid yn unig i gael fy rhwymo, ond hyd yn oed i farw, yn Jerwsalem, er mwyn enw'r Arglwydd Iesu.” A chan nad oedd modd cael perswâd arno, tawsom gan ddweud, “Gwneler ewyllys yr Arglwydd.”
Darllen Actau 21
Gwranda ar Actau 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 21:10-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos