Ac â llawer o eiriau eraill y tystiolaethodd ger eu bron, a'u hannog, “Dihangwch rhag y genhedlaeth wyrgam hon.” Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau. Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau. Daeth ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy'r apostolion. Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. Byddent yn gwerthu eu heiddo a'u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un. A chan ddyfalbarhau beunydd yn unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cydfwyta mewn llawenydd a symledd calon, dan foli Duw a chael ewyllys da'r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.
Darllen Actau 2
Gwranda ar Actau 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 2:40-47
9 Dyddiau
Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos