Daeth rhyw Iddew o'r enw Apolos i Effesus. Brodor o Alexandria ydoedd, a gŵr huawdl, cadarn yn yr Ysgrythurau. Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd yr oedd yn llefaru ac yn dysgu yn fanwl y ffeithiau am Iesu, er mai am fedydd Ioan yn unig y gwyddai. Dechreuodd hefyd lefaru'n hy yn y synagog, a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt, ac esbonio iddo Ffordd Duw yn fanylach. A chan ei fod yn dymuno mynd drosodd i Achaia, cefnogodd y credinwyr ef, ac ysgrifennu at y disgyblion, ar iddynt ei groesawu. Ac wedi iddo gyrraedd, bu'n gynhorthwy mawr i'r rhai oedd trwy ras wedi credu, oherwydd yr oedd yn mynd ati'n egnïol i wrthbrofi dadleuon yr Iddewon, gan ddangos ar goedd trwy'r Ysgrythurau mai Iesu oedd y Meseia.
Darllen Actau 18
Gwranda ar Actau 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 18:24-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos