Gwnaeth ef hefyd o un dyn yr holl genhedloedd, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan osod cyfnodau penodedig a therfynau eu preswylfod. Yr oeddent i geisio Duw, yn y gobaith y gallent rywfodd ymbalfalu amdano a'i ddarganfod; ac eto nid yw ef nepell oddi wrth yr un ohonom. “ ‘Oherwydd ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod’, “fel, yn wir, y dywedodd rhai o'ch beirdd chwi: “ ‘Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.’ “Os ydym ni, felly, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybio fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn.
Darllen Actau 17
Gwranda ar Actau 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 17:26-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos