Wedi i Pedr ddod ato'i hun, fe ddywedodd, “Yn awr mi wn yn wir i'r Arglwydd anfon ei angel a'm gwared i o law Herod a rhag popeth yr oedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl.” Wedi iddo sylweddoli hyn, aeth i dŷ Mair, mam Ioan a gyfenwid Marc, lle'r oedd cryn nifer wedi ymgasglu ac yn gweddïo. Curodd wrth ddrws y cyntedd, a daeth morwyn o'r enw Rhoda i'w ateb. Pan adnabu hi lais Pedr nid agorodd y drws gan lawenydd, ond rhedodd i mewn a mynegi bod Pedr yn sefyll wrth ddrws y cyntedd.
Darllen Actau 12
Gwranda ar Actau 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 12:11-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos