Gwna dy orau i ddod ataf yn fuan, oherwydd rhoddodd Demas ei serch ar y byd hwn, a'm gadael. Aeth ef i Thesalonica, a Crescens i Galatia, a Titus i Dalmatia. Luc yn unig sydd gyda mi. Galw am Marc, a thyrd ag ef gyda thi, gan ei fod o gymorth mawr i mi yn fy ngweinidogaeth. Anfonais Tychicus i Effesus. Pan fyddi'n dod, tyrd â'r clogyn a adewais ar ôl gyda Carpus yn Troas, a'r llyfrau hefyd, yn arbennig y memrynau. Gwnaeth Alexander, y gof copr, ddrwg mawr imi. Fe dâl yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd. Bydd dithau ar dy wyliadwriaeth rhagddo, oherwydd y mae wedi gwrthwynebu ein cenadwri ni i'r eithaf. Yn y gwrandawiad cyntaf o'm hamddiffyniad, ni safodd neb gyda mi; aeth pawb a'm gadael; peidied Duw â chyfrif hyn yn eu herbyn. Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew. A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen. Rho fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus. Arhosodd Erastus yng Nghorinth, a gadewais Troffimus yn glaf yn Miletus. Gwna dy orau i ddod cyn y gaeaf. Y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Clawdia, a'r cyfeillion oll, yn dy gyfarch. Yr Arglwydd fyddo gyda'th ysbryd di! Gras fyddo gyda chwi!
Darllen 2 Timotheus 4
Gwranda ar 2 Timotheus 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Timotheus 4:9-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos