Dylem ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion, fel y mae'n weddus, am fod eich ffydd yn cynyddu'n ddirfawr, a chariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn dyfnhau, nes ein bod ninnau yn ymffrostio ynoch ymysg eglwysi Duw, o achos eich dyfalbarhad a'ch ffydd dan yr holl erledigaethau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu dioddef. Y mae hyn yn brawf o farn gyfiawn Duw, fel y cewch eich cyfrif yn deilwng o deyrnas Dduw, y deyrnas, yn wir, yr ydych yn dioddef er ei mwyn. Cyfiawn ar ran Duw, yn sicr, yw talu gorthrymder yn ôl i'r rhai sydd yn eich gorthrymu chwi, a rhoi esmwythâd i chwi sy'n cael eich gorthrymu, ac i ninnau hefyd, pan ddatguddir yr Arglwydd Iesu o'r nef gyda'i angylion nerthol. Fe ddaw mewn fflamau tân, gan ddial ar y rhai nad ydynt yn adnabod Duw a'r rhai nad ydynt yn ufuddhau i Efengyl ein Harglwydd Iesu. Dyma'r rhai fydd yn dioddef dinistr tragwyddol yn gosb, wedi eu cau allan o bresenoldeb yr Arglwydd ac o ogoniant ei nerth ef, pan ddaw, yn y Dydd hwnnw, i'w ogoneddu gan ei saint ac i fod yn destun rhyfeddod gan bawb a gredodd; oherwydd y mae'r dystiolaeth a gyhoeddwyd gennym ni i chwi wedi ei chredu.
Darllen 2 Thesaloniaid 1
Gwranda ar 2 Thesaloniaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Thesaloniaid 1:3-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos