Yr oedd Dafydd wedi cyrraedd Mahanaim erbyn i Absalom a holl filwyr Israel gydag ef groesi'r Iorddonen. Yr oedd Absalom wedi gosod Amasa dros y fyddin yn lle Joab. Yr oedd ef yn fab i ddyn o'r enw Ithra'r Ismaeliad, a oedd wedi priodi Abigal ferch Nahas, chwaer Serfia mam Joab. Gwersyllodd Israel gydag Absalom yn nhir Gilead. Wedi i Ddafydd gyrraedd Mahanaim, daeth Sobi fab Nahas o Rabba'r Ammoniaid, a Machir fab Ammiel o Lo-debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim â gwelyau, powlenni a llestri; hefyd gwenith, haidd, blawd, crasyd, ffa, ffacbys, mêl, ceulion o laeth defaid a chaws o laeth gwartheg. Rhoesant hwy i Ddafydd a'r bobl oedd gydag ef i'w bwyta, oherwydd meddent, “Bydd y bobl yn newynog a lluddedig, ac yn sychedig yn yr anialwch.”
Darllen 2 Samuel 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Samuel 17:24-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos