Bellach, gyfeillion annwyl, dyma'r ail lythyr imi ei ysgrifennu atoch. Yn y ddau ohonynt, yr wyf yn ceisio deffro dealltwriaeth ddilychwin ynoch trwy eich atgoffa am y pethau hyn. Yr wyf am ichwi gofio'r pethau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a gorchymyn yr Arglwydd a'r Gwaredwr, a roddwyd trwy eich apostolion. Deallwch hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr sy'n byw yn ôl eu chwantau eu hunain, ac yn holi'n goeglyd: “Beth a ddaeth o'r addewid am ei ddyfodiad ef? Oherwydd, byth er pan hunodd yr hynafiaid, y mae popeth wedi parhau yn union fel y bu o ddechreuad y greadigaeth.” Y maent yn fwriadol yn anwybyddu'r ffaith hon, fod y nefoedd yn bod erstalwm, a'r ddaear wedi ei llunio o ddŵr a thrwy ddŵr gan air Duw; a thrwy ddŵr y dinistriwyd byd yr oes honno, sef dŵr y dilyw. Gan yr un gair hefyd y mae nefoedd a daear yr oes hon wedi eu gosod mewn stôr ar gyfer y tân; y maent ar gadw hyd Ddydd barn a distryw yr annuwiol. Gyfeillion annwyl, peidiwch ag anghofio'r un peth hwn, fod un diwrnod yng ngolwg yr Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod. Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch.
Darllen 2 Pedr 3
Gwranda ar 2 Pedr 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Pedr 3:1-9
7 Days
New Year. A New Day. God created these transitions to remind us that He is the God of New Beginnings. If God can speak the world into existence, He can certainly speak into the darkness of your life, creating for you a new beginning. Don’t you just love fresh starts! Just like this reading plan. Enjoy!
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos