Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 25:5-24

2 Brenhinoedd 25:5-24 BCND

Ond erlidiodd byddin y Caldeaid ar ôl y brenin a'i oddiweddyd yn rhosydd Jericho, ac yr oedd ei filwyr i gyd ar chwâl. Felly daliwyd y brenin a'i ddwyn yn ôl at frenin Babilon i Ribla, a rhoi dedfryd arno. Lladdasant feibion Sedeceia o flaen ei lygaid, ac yna tynnu allan ei lygaid a'i roi mewn cadwynau a'i ddwyn i Fabilon. Ar y seithfed dydd o'r pumed mis yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar brenin Babilon, daeth Nebusaradan capten y gwarchodlu, swyddog brenin Babilon, i Jerwsalem. Rhoddodd dŷ'r ARGLWYDD a phalas y brenin ar dân, a llosgi hefyd bob tŷ o faint yn Jerwsalem. Drylliwyd y mur o amgylch Jerwsalem gan holl fyddin y Caldeaid a oedd gyda chapten y gwarchodlu. Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, y gweddill o'r bobl a adawyd yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi gwrthgilio at frenin Babilon, a gweddill y crefftwyr. Gadawodd capten y gwarchodlu rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac yn arddwyr. Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn y deml, a'r trolïau a'r môr pres oedd yn y deml, a mynd â'r pres i Fabilon, a chymryd y crochanau a'r rhawiau a'r saltringau a'r llwyau a'r offer pres i gyd a ddefnyddid yn y gwasanaethau. Ond cymerodd capten y gwarchodlu feddiant o'r padellau tân a'r cawgiau oedd o aur ac arian pur. Ac am y ddwy golofn bres a'r môr a'r trolïau a wnaeth Solomon i dŷ'r ARGLWYDD, nid oedd yn bosibl pwyso'r pres yn yr offer hyn. Deunaw cufydd oedd uchder y naill golofn, a'r cnap pres arni yn dri chufydd o uchder, a rhwydwaith o bomgranadau o gwmpas y cnap, a'r cwbl o bres; ac yr oedd yr ail golofn a'i rhwydwaith yr un fath. Cymerodd capten y gwarchodlu Seraia yr archoffeiriad a Seffaneia yr ail offeiriad a thri cheidwad y drws; a chymerodd o'r ddinas swyddog a ofalai am y gwŷr rhyfel, pump o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ysgrifennydd pennaeth y fyddin a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o bobl y wlad oedd yn parhau yn y ddinas. Aeth Nebusaradan capten y gwarchodlu â'r rhai hyn at frenin Babilon i Ribla. Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda allan o'i gwlad ei hun. Penododd Nebuchadnesar brenin Babilon Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan dros y bobl a adawyd ganddo yn nhir Jwda. Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr, fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia, daethant at Gedaleia i Mispa. Eu henwau oedd Ismael fab Nethaneia, Johanan fab Carea, Seraia fab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia fab y Maachathiad. Tyngodd Gedaleia wrthynt ac wrth eu milwyr, “Nid oes angen i chwi ofni swyddogion y Caldeaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd yn iawn arnoch.”