Diolch i Dduw, yr hwn a roddodd yng nghalon Titus yr un ymroddiad drosoch. Oherwydd nid yn unig gwrandawodd ar ein hapêl, ond gymaint yw ei ymroddiad fel y mae o'i wirfodd ei hun yn ymadael i fynd atoch. Yr ydym yn anfon gydag ef y brawd sy'n uchel ei glod drwy'r holl eglwysi am ei waith dros yr Efengyl, un sydd, heblaw hyn, wedi ei benodi gan yr eglwysi i fod yn gyd-deithiwr â ni, ac i'n cynorthwyo yn y rhodd raslon yr ydym yn ei gweinyddu, i ddangos gogoniant yr Arglwydd ei hun a'n heiddgarwch ni. Yn hyn oll yr ydym yn gofalu na chaiff neb fai ynom mewn perthynas â'r rhodd hael hon a weinyddir gennym. Oherwydd y mae ein hamcanion yn anrhydeddus, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg pobl. Yr ydym hefyd yn anfon gyda hwy ein brawd, yr un y cawsom brawf o'i ymroddiad mewn llawer modd a llawer gwaith. Y mae yn awr yn fwy ymroddgar byth oherwydd yr ymddiriedaeth lwyr sydd ganddo ynoch. Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a'm cydweithiwr yn eich gwasanaeth; neu am y brodyr, cenhadau'r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist. Am hynny, dangoswch iddynt brawf o'ch cariad, ac o'n hymffrost ni amdanoch, yng ngŵydd yr eglwysi.
Darllen 2 Corinthiaid 8
Gwranda ar 2 Corinthiaid 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 8:16-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos